Não gostou? Não há problema! Pode devolver os artigos até 30 dias
Não há como errar com um vale de oferta. O presenteado pode escolher qualquer produto da nossa oferta.
Até 30 dias para devoluções
Yn anaml iawn y daw ffynonellau newydd ar gyfer y Gymru ganoloesol gynnar i'r amlwg. Ond dyma a geir yn llawysgrif Yale, Llyfrgell Beinecke, Osborn fb229 - llawysgrif modern cynnar sy'n drysorfa o destunau hagiograffaidd. Ei thrysor mwyaf yw ei fersiwn unigryw o Fuchedd Cybi, a all gynnwys elfennau mor gynnar â'r ddegfed neu'r unfed ganrif ar ddeg, gan gyflwyno tystiolaeth gwbl newydd am Gybi a'i gwlt canoloesol. Nid am ei chopi o Fuchedd Cybi yn unig y mae'r gyfrol hon yn arwyddocaol. Fe ddengys yn ogystal sut yr aethpwyd ati i addasu gweithiau megis Buchedd Beuno a Buchedd Collen yn yr Oesoedd Canol diweddar a'r cyfnod modern cynnar; tystia i weithgarwch rhwydweithiau Catholig ac unigolion megis Edward Morgan o Lys Bedydd, offeiriad Catholig a greodd y cyfieithiad unigryw o Fuchedd Gwenfrewy yn y llawysgrif hon, ac a ddienyddiwyd maes o law. Diogelwyd y testunau hyn oll gan ysgrifydd amryddawn y llyfr, Robert Davies o Wysanau, Sir y Fflint, a chawn gyflwyniad i'w fywyd, ei weithgarwch a'i ddiddordebau eang.
Olá! Sou o Libroamiko, o seu conselheiro de livros.
Como posso ajudar?