Não gostou? Não há problema! Pode devolver os artigos até 30 dias
Não há como errar com um vale de oferta. O presenteado pode escolher qualquer produto da nossa oferta.
Dyma gasgliad o ysgrifau sy'n archwilio rhai o'r dolennau cyswllt cymhleth a chyfoethog rhwng diwylliannau llen Cymraeg a llen Saesneg Cymru dros ganrif a mwy. Mae'r testunau a drafodir yn amrywio o bynciau cyffredinol (tarddiad y syniad fod y Cymry yn genedl gapelog; delweddau Cymru o Ewrop; ei hagwedd at y Taleithiau) i ddadansoddiadau manwl o weithiau unigol (Gwaed yr Uchelwyr; Ymadawiad Arthur); ac astudiaeth o awduron sydd wedi eu hanwybyddu i raddau helaeth (Pennar Davies; Alun Llywelyn-Williams).